Trosolwg
Rwy'n beiriannydd cemegol a biobrosesu ac rwy'n Athro Cyswllt yng nghanolfan ymchwil ESRI ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad mewn diwydiant yn gweithio ym maes Olew a Nwy a Chynhyrchion Fferyllol. O ganlyniad, rwy'n brofiadol iawn wrth ddylunio, datblygu a thyfu offer prosesau o raddfa labordy i raddfa ffatrïoedd.