Trosolwg
Mae David yn Athro Cysylltiol ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Rheoli Busnes Israddedig yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddarlithio mewn Entrepreneuriaeth a Rheoli Prosiectau. Ar ôl gweithio ym myd diwydiant am 20 mlynedd yn arbenigo mewn Gwerthiannau, Marchnata a Datblygu Busnes ac mewn cymorth economaidd a busnes i Lywodraeth Cymru, dychwelodd i'r byd academaidd yn 2013.
Ers ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2013 mae wedi bod yn rhan o nifer o fentrau, yn fwyaf nodedig yn datblygu modiwlau ar draws campysau sy'n canolbwyntio ar feddylfryd ac arweinyddiaeth entrepreneuraidd.
Yn yr Ysgol Reolaeth, mae David wedi canolbwyntio ar gyfrannu at ddatblygu modiwlau arloesi a mentergarwch a chyfeiriad strategol, a chynorthwyo yn hynny o beth, yn ogystal â datblygu modiwlau
sgiliau proffesiynol ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig, yn genedlaethol yn y DU ac o safbwynt rhyngwladol yn arbenigo yn y sector addysg yn Tsieina.
Mae David yn Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch, y Sefydliad Rheolaeth Siartredig a'r Rhaglen Addysgwyr Mentergarwch Ryngwladol.
Ar hyn o bryd mae'n Is-gadeirydd Rhanbarthol Cymru y Sefydliad Rheolaeth Siartredig ac yn Llywydd Enterprise Educators UK ar gyfer 2024 a 2025. Mae hefyd yn arholwr allanol i Brifysgolion Keele, Glyndŵr a Swydd Gaerloyw yn ogystal â Phrifysgol Gorllewin yr Alban.