Trosolwg
Dechreuodd Dai ei yrfa fel athro Daearyddiaeth mewn ysgolion uwchradd ym 1996 yng ngogledd a de Cymru cyn symud i'r sector darpariaeth amgen yn 2004 fel athro cefnogi ymddygiad yn gweithio gyda dysgwyr a oedd yn arddangos amryw o ADY ac wedi'u gwahardd neu a oedd mewn perygl o gael eu gwahardd yn barhaol o addysg CA2 i CA4. Ers symud i addysg uwch yn 2015, mae Dai wedi addysgu ar raglenni gradd addysg israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys y rhai hynny sy'n cynnig datblygiad proffesiynol i athrawon a chynorthwywyr addysgu ac mae wedi goruchwylio nifer o draethodau ymchwil MA ar draws amrywiaeth o bynciau.