Trosolwg
Cyfarwyddwr Deallusrwydd Artiffisial, Datblygu Digidol ac Ar-lein, Adran Addysg
Yr Athro Berry Billingsley yw Prif Ymchwilydd y Fenter Mewnwelediad Epistemig a Dyfodol Gwybodaeth. Mae'r fenter yn datblygu offer ac adnoddau newydd sy'n pontio disgyblaethau ac sy'n dod â phobl ynghyd. Mae'r fenter hefyd yn creu ffyrdd newydd o feddwl a dysgu am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Ar ôl iddi gael gyrfa gyda'r BBC yn gweithio ar Tomorrows World, Blue Peter a’r World Service, symudodd Berry i fyd addysg, gan greu adnoddau arobryn i ddenu diddordeb pobl ifanc ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae Berry yn mwynhau gofyn cwestiynau mawr megis "Beth yw ystyr bod yn fod dynol yn oes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol?" a gwahodd myfyrwyr o bob oedran i archwilio ffyrdd gwahanol o ateb.
Rhai o'n themâu cyfredol yw:
- Ffyrdd o gefnogi prifysgolion i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd.
- Ffyrdd creadigol a moesegol o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial sy'n helpu pobl i feddwl mewn ffyrdd newydd a rhoi hwb i asiantaeth ddynol yn hytrach na'i lleihau
- Sut i gydbwyso cyffro Deallusrwydd Artiffisial â phwysigrwydd dysgu wyneb yn wyneb