Trosolwg
Ganwyd Eloise Williams yng Nghaerdydd ac fe'i magwyd gyferbyn â llyfrgell yng nghymoedd y de. Bu'n gweithio fel actor ac ymarferydd theatr am ddegawd cyn dechrau ei gyrfa fel awdur. Mae Eloise bellach yn awdur arobryn a hi oedd Children's Laureate Wales cyntaf rhwng 2019 a 2021.
Mae hi wedi ysgrifennu saith llyfr ar gyfer darllenwyr ifanc, Elen's Island (2015), Gaslight (2017), Seaglass (2018), Wilde (2020), The Tide Singer (2022), Honesty and Lies (2022), The Curio Collectors (2023), ac mae'n awdur cyfrannol ac yn gyd-olygydd The Mab (2022), sy'n ailadrodd straeon Y Mabinogi y mae hi'n eu haddasu ar hyn o bryd ar gyfer y llwyfan.
Mae disgwyl i'w nofel newydd i blant blynyddoedd canol gael ei chyhoeddi yn 2026.