Aerial Singleton Campus (MTK1192)
Professional headshot of Rashedul Hasan

Dr Rashedul Hasan

Darlithydd mewn Cyfrifeg
Accounting and Finance
227
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Rashedul Hasan yn Ddarlithydd mewn Cyfrifeg yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo PhD mewn Cyfrifeg, mae'n Gyfrifydd Rheoli Byd-Eang Siartredig (CGMA), rhoddwyd statws Addysgwr Rheoli a Busnes Siartredig (CMBE) iddo gan Chartered ABS ac mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA).

Dechreuodd Rashedul ar ei yrfa academaidd yn 2011, ac mae wedi addysgu ar lefelau amrywiol ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol. Ei brif arbenigedd yw cyfrifyddu rheoli ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae hefyd wedi addysgu ym meysydd adrodd ariannol, archwilio a threthiant mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn Bangladesh, Malaysia a'r Deyrnas Unedig. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, roedd yn Uwch-ddarlithydd, yn Gyfarwyddwr Cwrs Cysylltiol ac yn Gadeirydd ar Grŵp Diddordeb Arbennig (Llywodraethiant Corfforaethol) ym Mhrifysgol Coventry.

Mae Rashedul yn cynnal ymchwil i adrodd ar gynaliadwyedd, llywodraethiant corfforaethol a chyllid Islamaidd. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion a gydnabuwyd yn fyd-eang, gan gynnwys Business Strategy and the Environment, Finance Research Letters a Global Policy. Mae Rashedul hefyd yn olygydd cysylltiol ar gyfer nifer o gyfnodolion o fri ac mae'n gwneud adolygiadau ad-hoc ar gyfer cyfnodolion o'r radd flaenaf ym maes cyfrifeg a chyllid gan gynnwys British Accounting Review a Journal of International Financial Markets, Institutions & Money. Mae wedi sicrhau grant ymchwil a ddyfarnwyd gan Weinyddiaeth Addysg Malaysia (MOE). Mae Rashedul wedi cyhoeddi llyfrau am faterion adrodd ar gynaliadwyedd, cyllid digidol a chyllid Islamaidd gyda chyhoeddwyr o fri gan gynnwys Cambridge University Press, Taylor & Francis a De Gruyter.

Mae Rashedul wedi gweithio'n agos gyda chyrff proffesiynol, academaidd a rheoleiddiol megis Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli, Sefydliad y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) a Gweinyddiaeth Addysg Malaysia (MOE). Mae wedi gweithio gyda'r Centre for Policy Dialogue (CPD) i gynnig strwythur treth corfforaethol wedi'i ddiweddaru i'r rheoleiddwyr yn Bangladesh.

Mae Rashedul yn aelod o weithgor Accounting and Auditing Organization for Islamic Financial Institutions (AAOIFI) ac mae wedi cymryd rhan weithredol wrth ddatblygu'r safonau ar gyfer cyllido torfol a Chryptoarian Islamaidd. Mae'n fentor a gymeradwywd gan Raglen Fentora AICPA a CIMA.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifyddu Rheoli
  • Adrodd Ariannol
  • Adrodd ar Gynaliadwyedd
  • Llywodraethiant Corfforaethol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
School of Management (MTK719)

Cyfrifyddu Rheoli
Cyfrifyddu Ariannol
Adrodd a Dadansoddi Corfforaethol
Archwili

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau