Trosolwg
Ymunodd Boru Ren â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd (Uwch Ddarlithydd Cynorthwyol) mewn Cyllid ym mis Medi 2023, ar ôl ennill PhD mewn Cyllid o Trinity Business School, Trinity College Dublin (The University of Dublin) yn Iwerddon. Mae gan Boru hefyd radd MCom mewn Cyllid a Chyllid Meintiol o University of Sydney Business School ac BSc mewn Systemau Cemegol o University of Melbourne, ill dwy yn Awstralia. Mae ei ymchwil wedi’i chyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol o fri, gan gynnwys, ymhlith eraill, Economic Modelling, Energy Economics, a Journal of International Money and Finance.
Mae Boru yn croesawu cynigion ymchwil gan ymgeiswyr PhD eithriadol a chymhellol sydd â sgiliau meintiol cryf ac sydd â diddordeb yn ei feysydd ymchwil. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn goruchwylio pynciau ymchwil sy’n gysylltiedig yn eang â, ond nid yn gyfyngedig i, gyllid corfforaethol, llywodraethu, cyllid cynaliadwy, haint ariannol, a rhagfynegi.