Dr Ed Lord

Dr Ed Lord

Darlithydd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl
Nursing

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1195

Cyfeiriad ebost

214
Llawr Cyntaf
Adeilad Glyndwr
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Ed wedi bod yn ddarlithydd gyda’r tîm Nyrsio Iechyd Meddwl ers yr hydref 2019.  Cymhwysodd fel Nyrs o Brifysgol Nottingham yn 2007 a gweithiodd ym maes iechyd meddwl cleifion preswyl acíwt mewn sawl Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr a Byrddau Iechyd yng Nghymru am dros ddeng mlynedd.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys rhyngblethu iechyd meddwl, daearyddiaeth, amgylcheddedd a theori gymdeithasol gritigol. Yn 2016, rhoddwyd MSc drwy Ymchwil iddo mewn Theori Gymdeithasol a Gofod am ei thesis “A wild schizoanalysis of mental distress in the spaces of modernity” – a gyhoeddwyd wedyn ar ffurf llyfr “Modern Madness” gan wasg Winter Oak.

Ers 2016 mae Ed wedi bod yn cyflawni ymchwil ethnograffig ansoddol ym maes ecotherapi a thriniaethau’n seiliedig ar natur fel rhan o Gymrodoriaeth PhD gan RCBC Cymru.

Ar ben ei rôl yn yr Adran Nyrsio, mae Ed yn datblygu ac yn gweithredu “Coed Actif Cymru”, rhaglen sy’n defnyddio triniaethau lles yn seiliedig ar y coetir yng Nghastell-nedd Port Talbot gyda chorff anllywodraethol y goedwigaeth gymdeithasol ‘Coed Lleol’.

Meysydd Arbenigedd

  • Nyrsio Iechyd Meddwl
  • Gofal Iechyd Meddwl Acíwt
  • Theori Gymdeithasol Gritigol
  • Ecotherapi a Thriniaethau’n Seiliedig ar Natur
  • Coedwigaeth Gymdeithasol
  • Daearyddiaeth Iechyd Meddwl
  • Ethnograffig