Trosolwg
Mae Dr Emma J. Watts yn Swyddog Ymchwil (ymchwilydd ôl-ddoethurol) yn nhîm Teffra a Folcanoleg Abertawe sy’n gweithio gyda'r Athro Paul Albert ar ei grant Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ail-greu hanesion ffrwydrol llosgfynyddoedd gan ddefnyddio cyfuniad o ddata maes agos a phell, geocemeg a System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).
Cyn ei hamser yn Abertawe, cwblhaodd Emma ei gradd MEarthSci mewn Daeareg/Gwyddorau'r Ddaear ym Mhrifysgol Rhydychen (2014-2018), a PhD mewn Folcanoleg (2018-2023) ym Mhrifysgol Southampton. Yn dilyn ei gradd PhD cwblhaodd Emma flwyddyn fel Cymrawd Addysgu mewn Daeareg ym Mhrifysgol Southampton yn addysgu ac yn cydlynu cyrsiau gan gynnwys: Folcanoleg a phrosesau Mantell, Petroleg Igneaidd a Metamorffig a chwrs maes Folcanoleg Tenerife yn ogystal ag addysgu cyrsiau mewn Daeareg Strwythurol a Geoberyglon.
Ymunodd Emma â Phrifysgol Abertawe ym mis Mehefin 2024 ac mae'n gweithio ar Gampws Singleton. Ar hyn o bryd mae'n dysgu Cymraeg (lefel canolradd).