Trosolwg
Ymunodd Emma ag Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, yn diwtor y Gyfraith ym mis Ionawr 2023, ar ôl addysgu'r Gyfraith am dros bedair blynedd ym maes Addysg Bellach. Mae Emma yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, a graddiodd gyda gradd LL.B Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2014 a chyda Rhagoriaeth yn y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn 2016.
Cafodd Emma dros dair blynedd o brofiad trawsgludo gyda chwmni cyfreithiol rhyngwladol, ond roedd bob amser yn parhau'n sicr y byddai ei 'gyrfa gydol oes' yn y byd academaidd. Derbyniodd ragoriaeth yn y cwrs TAR o Brifysgol De Cymru ac mae diddordebau Emma yn cynnwys Cyfraith Trosedd, Troseddeg a Hawliau Dynol. Ar hyn o bryd mae'n paratoi ar gyfer ei PhD mewn Cyfiawnder Ieuenctid.