Trosolwg
Astudiodd Emrys Evans Gemeg ym Mhrifysgol Rhydychen (cafodd MChem yn 2012 a DPhil yn 2016, dan oruchwyliaeth yr Athro Christiane Timmel). Roedd ei brosiect PhD ar destun ffiseg ffoto a throelli parau radicalaidd a ysgogir gan olau sy'n gysylltiedig â magnetodderbyn ar gyfer llywio anifeiliaid. Ar ôl hyn, bu'n gweithio gyda'r Athro Syr Richard Friend yn Labordy Cavendish, Prifysgol Caergrawnt fel Cydymaith Ymchwil (2016-2019) a Chymrawd Gyrfa Gynnar Ymddiriedolaeth Leverhulme (2019-2020). Yng Nghaergrawnt, cynhaliodd ymchwil ar led-ddargludyddion organig a deunyddiau radicalaidd ar gyfer optoelectroneg mewn cydweithrediad â'r Athro Feng Li, Prifysgol Jilin. Yn 2020, dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Ymchwil Prifysgol gan y Gymdeithas Frenhinol i arwain ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ar 'Ynni radicalaidd a rheoli troelli mewn electroneg organig.' Yn 2021, dyfarnwyd Medal Dillwyn iddo am STEMM gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gydnabod rhagoriaeth ymchwil gyrfa gynnar am ei waith ym maes optoelectroneg. Yn 2022 derbyniodd wobr Seren Ymchwil ac Arloesi'r Dyfodol gan Brifysgol Abertawe.