Trosolwg
Astudiodd Eylan ar gyfer ei radd BSc mewn Gwyddor Fiofeddygol ym Mhrifysgol Brunel Llundain a graddiodd yn 2011. Yn ystod ei gyfnod israddedig, roedd e'n rhan o waith syntheseiddio proteinau ailgyfuno a phuro'r protein cyflenwi C1q mewn hilion bacterol yng Nghanolfan Heintiau, Imiwnedd a Mecanweithiau Clefydau, Prifysgol Brunel. Yn y pen draw, gwnaeth ei brosiect blwyddyn olaf yn yr un labordy a archwiliodd ryngweithiadau'r protein C-adweitheddol yn y cyfnod acíwt dynol gyda chlwyf Aspergilws dan oruchwyliaeth Dr Uday Kishore.
Dechreuodd Eylan ei PhD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd gyda grŵp Griffiths-Wang Abertawe ym mis Ionawr 2013 lle gwnaeth ganolbwyntio ar nodi, meintioli a dadansoddi metabolion colesterol wedi'u hocsideiddio a grëir gan lymffosytau CD4 + T wedi'u meithrin in vitro gan ddefnyddio technegau megis echdynnu lipidau, tarddu â chymorth ensymau, echdynnu cyfnod solet a chromatograffeg hylif perfformiad uchel - sbectrometreg màs.
Gan ehangu ei sgiliau fel Ymchwilydd Ôl-ddoethurol, mae ef bellach wedi symud ymlaen i ddatblygu a chymhwyso technegau sbectrometreg màs ac offer niwrobioleg, gan ystyried perthynas lipidau sterolau mewn niwroffisioleg a niwropatholeg. Mae Eylan yn aelod o Gymdeithas Sbectrometreg Màs Prydain a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.