Swansea Bay Campus

Dr Fern Davies

Uwch-ddarlithydd
Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
311
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Fern yn ddarlithydd yng ngrŵp pwnc Gweithrediadau Strategol a Dadansoddeg yn yr Ysgol Reolaeth.  Wedi iddi gwblhau gradd BSc mewn Rheoli Busnes a mwynhau gyrfa fel athletwr elît Prydain, enillodd ysgoloriaeth PhD yn Abertawe i archwilio'n feirniadol i’r berthynas rhwng busnes a chymdeithas, yn benodol mewn busnesau bach a chanolig (BBaCh).  Er y byddai rhai yn rhoi’r label ‘CSR’ i hyn, rhoddodd ymchwil Fern sylw i amrywiaeth eang o feysydd cysylltiedig megis moeseg busnes, moesoldeb a chymdeithaseg ymddygiad economaidd.

Yn ystod blwyddyn olaf ei PhD, bachodd Fern swydd rheoli prosiect yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.  Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gefnogi busnesau arloesol ar draws tri sector twf allweddol yn Iwerddon a Chymru er mwyn hybu ffyniant economaidd.  Yn sgil y gwaith hwn, aeth ei diddordebau ymchwil i gyfeiriad arall, sef rheoli arloesedd, arloesi fel creawdwr strategaeth a mantais gystadleuol gynaliadwy ac ecosystemau, clystyrau a rhwydweithiau arloesol ar draws ffiniau.  Trwy'r profiad hwn ac erbyn hyn fel cyd-gyfarwyddwr y prosiect, mae Fern wedi gweithio gyda busnesau ac academyddion mewn nifer o sectorau a meysydd.  Mae'r rhain yn cynnwys ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i chwaraeon, iechyd a gwyddor bywyd, ynni adnewyddadwy a bwyd a diod, ac maent yn cynnwys cydweithio gyda Chwaraeon Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.

Ar hyn o bryd mae Fern wedi cofrestru ar gwrs Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Datblygu Addysg Uwch ac mae'n dilyn modiwlau megis Dadansoddi a Gweithredu Strategol, Prosiect Blwyddyn Olaf (mewn partneriaeth â diwydiant), Sgiliau Busnes, Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Moeseg Busnes, a Chyd-destun Byd-eang Busnes.  Ar hyn o bryd mae'n cyd-drefnu'r modiwl Traethawd Hir MSc ac wedi cyflwyno ei hymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol megis yr Academi Reolaeth Brydeinig, ISBE a Chynhadledd Ewropeaidd ar Arloesi ac Entrepreneuriaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Strategaeth
  • Rheoli arloesedd
  • Ecosystemau arloesi
  • Trosglwyddo gwybodaeth
  • Busnesau bach a chanolig eu maint
  • Entrepreneuriaeth
  • Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  • Moeseg busnes

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Israddedig

  • Dadansoddi a gweithredu strategol
  • Sgiliau busnes personol
  • Prosiectau ymchwil blwyddyn olaf ar sail diwydiant
  • Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  • Rheoli arloesedd

 

Ôl-raddedig

  • Dulliau ymchwil
  • Ymchwil traethawd hir
Ymchwil Cydweithrediadau