Trosolwg
Mae Dr Fadi Baghdadi yn Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Yn dilyn swyddi addysgu ym Mhrifysgol Sydney a Phrifysgol Technoleg Sydney, cafodd Dr Baghdadi brofiad ymarferol yn cefnogi Sefydliadau Anllywodraethol (NGOs) yn Taroudant, De Moroco, ar brosiectau UE, Cenhedloedd Unedig ac UNICEF sy'n canolbwyntio ar atal ac ymateb i gamdrin plant. Mae ei ymchwil yn defnyddio dulliau cyfranogol i gryfhau systemau amddiffyn plant ledled De Byd-eang. Mae Dr Bagdhadi hefyd yn gyd-gyfarwyddwr y rhaglen ôl-raddedig Heriau Byd-eang mewn Iechyd a Meddygaeth.