A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Dr Geraldine Lublin

Dr Geraldine Lublin

Athro Cyswllt
Modern Languages

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
137
Llawr Cyntaf
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Prif faes ymchwil Geraldine Lublin yw Pagatonia, ar ei ffurf gyfoes ac o safbwynt hanesyddol. Hi yw awdur  Memoir and Identity in Welsh Patagonia: Voices from a settler community in Argentina (Gwasg Prifysgol Cymru, 2017), sydd yn archwilio'n feirniadol ddeunyddiau hunangofiannol a ysgrifennwyd gan ddisgynyddion y Cymry tua diwedd yr ugeinfed ganrif. O ganlyniad i'w ffocws cychwynnol ar safle 'arbennig’ y gymuned Gymraeg yn Chubut mewn perthynas â'r rhanbarth a gweddill yr Ariannin, datblygodd ei diddordeb yn nynameg ehangach y rhanbarth, gan gynnwys adeiladu cenedl yn yr Ariannin, poblogaethau brodorol a damcaniaeth wladychol ymsefydlwyr. Mae ei diddordebau ymchwil ehangach yn ymwneud â hunaniaethau Lladin America, adeiladu cenedl, pobloedd alltud a grwpiau trawswladol, rhyngddiwylliannaeth a dyniaethau digidol. Drwy ei hyfforddiant a’i hymarfer proffesiynol, mae hi hefyd wedi meithrin arbenigedd ym maes astudiaethau cyfieithu ac addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae Geraldine wedi’i hysbrydoli’n ddiweddar gan ddulliau Addysgeg Dad-dyfu [Degrowth] i ymgymryd â phrosiectau sydd yn cyfrannu at amlygu cydberthnasau rhwng yr argyfwng hinsawdd, anghydraddoldebau byd-eang a’r prif ddiwylliant economaidd sydd yn canolbwyntio ar dwf.

Geraldine yw Cyd-gyfarwyddwraig CEPSAM (Y Ganolfan Astudiaethau Cymharol Portiwgal, Sbaen a Chyfandiroedd America) ym Mhrifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Patagonia
  • Yr Ariannin
  • Adeiladu cenedl a Phoblogaethau Brodorol
  • Damcaniaeth Wladychol Ymsefydlwyr
  • Damcaniaeth cyfieithu
  • Addysgu cyfrwng Cymraeg,
  • Rhyngddiwylliannaeth, Pobloedd Alltud a Grwpiau Trawswladol
  • Dyniaethau Digidol

Uchafbwyntiau Gyrfa