Trosolwg
Un o Benrhiwgoch, Sir Gâr yw Hannah yn wreiddiol. Mynychodd Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa cyn dod i astudio Cymraeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2008. Arhosodd Hannah yn yr adran i ddilyn MA trwy Ymchwil dan nawdd yr AHRC cyn mynd ymlaen i gwblhau PhD, eto dan nawdd yr AHRC yn yr adran. Roedd yr MA trwy Ymchwil yn ystyried perthynas dramâu Gwenlyn Parry â Theatr yr Absẃrd tra bod y PhD yn cynnig cyfle i iddi ystyried maes Theatr yr Absẃrd ymhellach gan ofyn - a yw hi’n amser ffarwelio â’r math hwn o theatr yng Nghymru?
Ers cwblhau ei doethuriaeth mae Hannah wedi bod yn datblygu elfennau o’r gwaith hwnnw, a’r elfen gymharol honno rhwng y Cymro o ddramodydd Aled Jones Williams a’r dramodydd o Gatalwnia Sergi Belbel yn benodol. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis iddi yn 2017 er mwyn archwilio’u gwaith mewn rhagor o fanylder. Cyhoeddodd rai o ganfyddiadau'r ymchwil hwnnw yn Llên Cymru yn 2019.
Mae’r brifysgol wedi cydnabod gwaith ymchwil Hannah gan roi lle iddi ar gynllun Cymrodoriaeth Florence Mockeridge yn 2018 sef grŵp o 7 ymchwilydd a ddewiswyd o ar draws y brifysgol.
Ar hyn o bryd mae Hannah yn parhau i archwilio gwaith Aled Jones Williams a Sergi Belbel tra hefyd yn datblygu ei gwaith ymchwil ym maes theatrau cenedlaethol cenhedloedd di-wladwriaeth. Traddododd ddarlith i ddathlu canmlwyddiant Cymdeithas y Ddrama Gymraeg yn Abertawe yn 2019 dan y teitl ‘Theatr Genedlaethol Cymru: Theatr Rhwng Dau Fyd?’ a oedd yn dechrau archwilio’r maes ac mae cynlluniau ar waith i ddatblygu’r gwaith hwnnw.
Rhwng 2021 a 2024 bydd Hannah yn gweithio ar brosiect ymchwil a ariennir gan y Comisiwn Ymchwil Ewropeaidd dan arweiniad Dr Ríona Nic Congail yng Ngholeg y Brifysgol Dulyn. Bydd y prosiect dan y teitl ‘Ymwneud Pobl Ifanc â Diogelu Ieithoedd Ewropeaidd’ yn cynnig y cyfle iddi ddatblygu elfen gymharol ei hymchwil gan ei fod yn anelu at ddysgu mwy am, sut, pam, pryd ac ym mha ffyrdd y mae pobl ifanc yn ymwneud neu ddim yn ymwneud â diogelu y Wyddeleg, y Gymraeg a’r Gatalaneg er 1900.