Yr Athro Helen Quane

Athro Emeritws (Y Gyfraith)
Faculty of Humanities and Social Sciences

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae diddordebau ymchwil Helen yn ymwneud â materion o natur normadol a strwythurol ym maes cyfraith hawliau dynol ryngwladol, yn arbennig problemau o ran diogelu pobl o leiafrifoedd, hunanbenderfyniad a'r cyswllt rhwng cyfundrefnau hawliau dynol byd-eang, rhanbarthol a chenedlaethol wrth lunio normau hawliau dynol a'u rhoi ar waith. Mae prosiectau ymchwil diweddar yn cynnwys un prosiect ar blwraliaeth cyfreithiol a chyfraith hawliau dynol ryngwladol a phrosiect arall ar hawliau dynol ar y cyd â Chymdeithas Cenhedloedd Asia Dde-ddwyreiniol (ASEAN). Mae gwaith ymchwil Helen wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion blaenllaw megis Oxford Journal of Legal Studies, Harvard Human Rights Journal, International and Comparative Law Quarterly, a'r British Yearbook of International Law

Meysydd Arbenigedd

  • Hunanbenderfyniad
  • Hawliau lleiafrifoedd
  • Hawliau Pobloedd Brodorol
  • Lluosrywiaeth gyfreithiol