Dr Hari Arora

Dr Hari Arora

Athro Cyswllt
Biomedical Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604596

Cyfeiriad ebost

330
Trydydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Athro Cyswllt mewn Peirianneg Fiofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe yw Hari. Cwblhaodd ei astudiaethau israddedig rhwng 2004 a 2008 yn Adran Peirianneg Fecanyddol Coleg Imperial Llundain, ac yna cwblhaodd ei PhD Dan y teitl "Blast loading of fibre reinforced polymer composite structures". Bu’n gweithio yn yr Adran Mecaneg Deunyddiau a’r Grŵp Solidau Meddal rhwng 2011 a 2013 fel ymchwilydd ôl-ddoethurol, gan gwblhau prosiectau cyfrifiadol ac arbrofol a oedd yn gysylltiedig ag effaith, ymddygiad a thoriadau deunydd afliniol.

Yn 2013, enillodd Gymrodoriaeth Ymchwil gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a Choleg Imperial Llundain i astudio Mecaneg yr Ysgyfaint yn yr Adran Fiobeirianneg yn The Centre for Blast Injury Studies. Yma, datblygodd ei faes ymchwil gan ganolbwyntio ar greu strategaethau amddiffyn sydd wedi’u hoptimeiddio yn erbyn anafiadau, drwy gymeriadu biomecaneg trawma yn y corff dynol. Ar hyn o bryd mae’n arwain Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Fiofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar feinweoedd meddal a mecaneg meinweoedd rhithiol.

Caiff systemau fel yr ysgyfaint, y croen a’r system gardiofasgwlaidd eu hastudio o safbwynt eu hymddygiad ar raddfa fawr a bach ar draws cyfraddau straen a chyflyrau clefyd/anaf. Defnyddir yn rheolaidd dechnegau megis cydberthyniad delweddau digidol, gwyddor cyflymder delweddau gronynnau, ffotograffiaeth cyflymder uchel, a phrofi mecanyddol, yn ogystal â dulliau gweithgynhyrchu amrywiol. Mae gan Hari rôl weithredol ym maes mecaneg arbrofol ac ef yw Cadeirydd presennol y British Society for Strain Measurement (BSSM), sef cymdeithas genedlaethol sy’n canolbwyntio ar wella technegau arbrofi a lledaenu arfer da.