Professor James Bull

Yr Athro James Bull

Athro
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602972

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 145
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gennyf ddiddordeb mewn cysylltedd gofodol yn nynameg poblogaeth a chanlyniadau symudiadau ar lefel poblogaeth, yn ogystal ag ecoleg clefydau. Mae’r meysydd ymchwil hyn yn gorgyffwrdd wrth i organebau sy’n byw’n rhydd ddod i gysylltiad â chyfryngau trosglwyddadwy clefydau heintus. Rydw i’n defnyddio cyfuniad o fodelu mathemategol, arbrofion ecolegol gyda rhywogaethau model, ac arsylwadau maes o ecosystemau naturiol.

Yn fy ngwaith ymchwil damcaniaethol ar ecoleg poblogaeth a chymunedau, rydw i’n gofyn cwestiynau am ddyfalwch, cydfodolaeth a gwydnwch rhywogaethau. Mae’n seiliedig ar broblemau cymhwysol pwysig, gan gynnwys cynaliadwyedd amaeth-amgylcheddol, colli bioamrywiaeth, a rheolaeth forol, yn wyneb newidiadau amgylcheddol.

 

 

Meysydd Arbenigedd

  • Anifeiliaid morol
  • Metaboblogaethau
  • Rheoli plâu
  • Peillwyr
  • Dynameg a geneteg poblogaethau
  • Morwellt

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae’r rhan fwyaf o’m gwaith yn addysgu israddedigion yn ymwneud â dylunio arbrofol, ystadegau a thechnegau arolygon maes.

Rydw i’n goruchwylio prosiectau ymchwil ôl-raddedigion ar ddeall dosbarthiad, dynameg a chydnerthedd rhywogaethau. Gallaf ddarparu goruchwyliaeth arbenigol ar waith dadansoddi a modelu data, yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth logistaidd ar gyfer prosiectau ymarferol yn y labordy neu’r maes.

Rydw i’n Gyfarwyddwr Biowyddorau Ymchwil Ôl-raddedig ac yn cydgysylltu Cymorth Biowyddorau, Mathemateg ac Ystadegau (Biomas), a elwir hefyd yn ‘Stats Help’.

Ymchwil Prif Wobrau