Trosolwg
Mae Jess wedi gweithio â brithyll ymledol yn Ynysoedd Falkland gynt fel rhan o'i hymchwil ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol De'r Iwerydd. Roedd ei phrosiect PhD yn defnyddio cyfuniad o dechnegau gan gynnwys eDNA, tagio acwstig, dadansoddi isotopau sefydlog, a dadansoddi SNP. Mae hi'n angerddol am ymdrin â rhywogaethau ymledol a chadw ffawna frodorol a nod ei PhD oedd darparu gwybodaeth i reolwyr cadwraeth i leihau effeithiau brithyll ar rywogaethau brodorol. Yn flaenorol roedd Jess yn gweithio i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar y prosiect Rhwydwaith Ecolegol Cadarn Cymru (WaREN II) i sefydlu fframwaith i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Jess yn gweithio fel Technegydd yn Adran y Biowyddorau.