Trosolwg
Mae Jon Hinkin yn Uwch Ddarlithydd yn Nyrsio ac yn arbenigo mewn Rheoli Atal Heintiau a Nyrsio Arennau. Ef yw’r prif diwtor derbyniadau ar gyfer nyrsio ac mae’n aelod o Bwyllgor Recriwtio a Dethol y Brifysgol yn ogystal â Grŵp Derbyniadau Cymru Gyfan. Jon hefyd yw arweinydd rhan 2 y rhaglen BSc Nyrsio ac ar hyn o bryd ef yw’r arweinydd modiwl ar gyfer dau fodiwl cyn-gofrestru. Mae Jon hefyd yn rheoli’r modiwl ôl-gofrestru ar gyfer ‘gofal a rheoli cleifion gyda chlefyd yr arennau‘.
Yn y gorffennol gweithiodd Jon ym maes arfer clinigol yn arbenigo mewn nyrsio arennau cyn symud i faes Rheoli ac Atal Heintiau fel yr Uwch Nyrs Rheoli Heintiau yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro.