Trosolwg
Mae Johan wedi bod yn ddarlithydd prifysgol ers 1984 ym Mhrifysgol Columbia Brydeinig (1984 - 2007), Prifysgol Bolytechnig Hong Kong (2009 - 2016) a Phrifysgol Abertawe (2019 i'r presennol). Drwy gydol yr yrfa wych honno, mae ef wedi bod yn eiriolwr balch a chyson dros broffesiynoldeb cyfrifeg yn gyntaf ac yn bwysicaf oll (dynodiadau). Yn ail, ac yn gysylltiedig â hynny, myfyrwyr israddedig uchelgeisiol sy'n ymdrechu i ragori.
Gan ddefnyddio cyfrwng cyfrifeg, mae ef wedi annog ei ddysgwyr yn frwdfrydig i ddeall grym a rhyfeddod corff gwybodaeth cyfrifeg. Gan ddefnyddio damcaniaeth cyfrifeg, ar y cyd â seicoleg, meddwl yn gadarnhaol, a phrofiadau ymarferol o fywyd/fusnes, mae'n dangos sut mae cyfrifeg yn ased gwerthfawr/gwerth ychwanegol perthnasol iawn ac yn sgìl ar gyfer bywyd. Mae’n ffodus iawn i feddu ar sgìl a brwdfrydedd i wneud Cyfrifeg yn ddiddorol ac yn afaelgar ar gyfer pob math o gynulleidfa.
Drwy gydol ei waith mentora, ei esiampl a'i anogaeth, mae llawer o'i fyfyrwyr wedi cael gyrfaoedd hynod lwyddiannus a dylanwadol. Ychydig iawn o bethau sy'n rhoi mwy o bleser iddo na mentora dysgwr ifanc i anelu at fod yn unigolyn, yn gyflogai ac yn ddinesydd byd llwyddiannus.