Professor Luca Borger

Yr Athro Luca Borger

Athro
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513112

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 137
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rydw i’n ecolegydd, ac mae gennyf ddiddordeb mewn cynnal asesiadau meintiol o effeithiau newidiadau amgylcheddol ar fioamrywiaeth leol a byd-eang a nodi’r prosesau mecanistig sylfaenol ar lefel unigol a chymunedol (symudiadau, nodweddion, demograffeg, rhyngweithio) er mwyn datblygu modelau rhagfynegol a chanfod polisïau ar gyfer bywyd cynaliadwy ar y ddaear. Cyn mynd i’r maes gwyddoniaeth, roeddwn i’n gweithio fel cerddor proffesiynol llawrydd (corn ffrengig - cerddoriaeth glasurol a rhywfaint o jazz).

Efallai y byddwch yn dod ar draws fy enw wedi’i sillafu fel 'Luca Borger' neu 'Luca Boerger' – fi yw hwnnw.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg symudiad
  • Ecoleg ymddygiadol
  • Ecoleg poblogaeth
  • Ecoleg gymunedol
  • Ecoleg ofodol
  • Bioamrywiaeth
  • Rheolaeth adnoddau naturiol
  • Cadwraeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rydw i’n addysgu modiwl ail flwyddyn Dadansoddi Data Ecolegol BIO252, sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanfodion y broses o ddadansoddi data ecolegol, gan ddefnyddio Amgylchedd Meddalwedd R ar gyfer Cyfrifiadura Ystadegol.

Byddaf yn addysgu gweithdai’n aml ar ecoleg symudiadau ym Mhrifysgol Abertawe a thramor.

Mae’r modiwlau eraill rydw i’n eu dysgu ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys: Tueddiadau mewn Gwyddoniaeth (modiwl MRes), Adolygu Llenyddiaeth (Modiwl MSc/MRres), Ecoleg Megaffawna Morol (modiwl 3ydd blwyddyn).

Ymchwil