Trosolwg
Rwyf yn addysgu ystod o fodiwlau israddedig yn y ddau brif faes: Diwylliant America Ladin a Chyfieithu (Sbaeneg-Saesneg). Rwyf hefyd yn addysgu'r modiwl Cyfieithu Uwch (Sbaeneg-Saesneg) sy'n rhan o'n gradd MA Cyfieithu Proffesiynol. Mae llawer o'n myfyrwyr wedi dod o hyd i waith diddorol hyd yn oed cyn iddynt raddio: ychydig flynyddoedd yn ôl cyfrannodd myfyrwyr at y gwaith o gyfieithu Los Cisnes, llyfr am chwaraewyr pêl-droed o Sbaen yn nhîm Dinas Abertawe. Rwyf hefyd yn addysgu sgiliau ymchwil i fyfyrwyr y Celfyddydau a'r Dyniaethau gan ganolbwyntio'n benodol ar gyhoeddiadau cyntaf.
Ar hyn o bryd rwyf yn goruchwylio chwe myfyriwr doethurol ar bynciau'n amrywio o ysgrifennu gan fenywod o'r Caribî a'r modd y cynrychiolir menywod yng ngweithiau'r awdur o Beriw, Mario Vargas Llosa, i'r cyfieithiadau iaith Saesneg o Don Quixote a'r heriau diwylliannol ym maes cyfieithu Saesneg-Arabeg. Croesawaf ymholiadau am oruchwyliaeth PhD mewn perthynas yn benodol â nofelau Lladin-Americanaidd cyfoes (ac ym maes mudiadau cysylltiedig a genres ysgrifennu, megis y Neo-Baroc, Hanesyddoliaeth Newydd a Ffeministiaeth) ac ym maes Cyfieithu (damcaniaeth ac ymarfer).
Fi yw golygydd y cyfnodolyn llenyddol, Romance Studies (a sefydlwyd yn Abertawe ym 1982), sydd wedi cyhoeddi materion arbennig o bwys, yn enwedig ar ddiwylliannau Ffrengig a Sbaenaidd. Cynhelir Romance Studies International Colloquia yn rheolaidd yn y DU ac yn yr Unol Daleithiau ac wedyn cyhoeddir papurau dethol yn y cyfnodolyn. Un o'n cenadaethau yw annog ysgolheigion ifanc ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi rhoi cyfle i lawer ohonynt gyhoeddi eu gwaith.
Fy nghyhoeddiadau diweddaraf yw:
Madness and Irrationality in Spanish and Latin American Literature and Culture (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2020).
‘Time, Digression and the Other (Side) in Juan José Saer’s La grande’, Modern Language Review, 115.4 (Hydref 2020), 827-46.