Golwg o Gampws Singleton a’r bae gyferbyn o’r awyr
Llun proffil o Dr Lowri Williams

Dr Lowri Williams

Arweinydd Partneriaeth Ysgolion
Faculty of Humanities and Social Sciences

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
250
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton

Trosolwg

Mae gan Lowri Williams BA (Anrh) a PhD o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ganddi brofiad o ddarlithio yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn prifysgolion ar draws Ewrop, sef Prifysgol Galway, Prifysgol Freiburg a’r IUFM d’Alsace yn Strasbourg.

Bu Lowri hefyd yn gweithio am bron i 20 mlynedd yn Adran Addysg BBC Cymru, gan gynhyrchu adnoddau dysgu dwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion ar draws llwyfannau amrywiol, gan gynnwys radio, teledu ac ar-lein yn ogystal â threfnu digwyddiadau proffil uchel ledled Cymru i hyrwyddo allbwn.

Mae ganddi brofiad helaeth ym maes cyfieithu a phrawfddarllen ar ôl dysgu cwrs cyfieithu ym Mhrifysgol Freiburg, ac fel Arweinydd Golygyddol cynnwys Cymraeg Adran Addysg BBC Cymru a Chymwysterau Cymru.