An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite

Dr Matthew Stevens

Athro Cyswllt
History

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295094

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rydw i'n archwilio natur bywyd bob dydd – cymdeithasol, cyfreithiol ac economaidd – ar gyfer pobl gyffredin yn yr Oesoedd Canol. Yn ogystal â hanes cyfreithiol ac economaidd traddodiadol o ran Cyfraith gyffredin Lloegr a masnach ganoloesol, mae gen i ddiddordeb arbennig ym mhrofiadau grwpiau sydd o dan anfantais hanesyddol. Er enghraifft, mae fy ymchwil wedi ystyried dylanwad yr arfer cyfreithiol o’r cyflwr priodasol (rheolaeth gŵr o asedau ei wraig) ar fywydau menywod yn yr Oesoedd Canol. Rydw i hefyd yn astudio gwahaniaethu ar sail gwladychu a gwahaniaethu ethnig ('hiliol') yn yr Oesoedd Canol, gydag arbenigedd penodol ar wladychu Cymru ganoloesol gan Loegr. Yn fwyaf diweddar, rydw i’n cymryd rhan mewn dadansoddiad cymharol o wladychu Eingl-Normanaidd/Seisnig canoloesol Cymru ac Iwerddon, a gwladychu  Prwsia (gogledd Gwlad Pwyl heddiw) a Livonia (Latfia ac Estonia fodern) gan yr Almaen.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanes economaidd canoloesol
  • Hanes cyfreithiol canoloesol (cyfraith gyffredin Lloegr)
  • Hanes Canoloesol Cymru
  • Hanes trefol canoloesol
  • Gwladychu canoloesol
  • Menywod yn yr economi a'r gyfraith ganoloesol
  • Ethnigrwydd ('hil') a gwahaniaethu yn yr Oesoedd Ca

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Cymrawd o’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol (etholwyd, 2012).

Yn ail am Wobr Donald W. Sutherland, American Society for Legal History, yr erthygl orau ar hanes cyfreithiol Lloegr (2010).

Cymdeithas Hanes Economaidd, Eileen Power Post-Doctoral Fellowship, Cyfadran Hanes Modern, Prifysgol Rhydychen (2005–06).

Gwobr Goffa’r Tywysog Llywelyn ap Gruffydd, traethawd ymchwil gorau ym Mhrifysgol Cymru a gyflwynwyd am PhD mewn Hanes neu Hanes Cymru (2005).

Cydweithrediadau