Professor Mary Gagen

Yr Athro Mary Gagen

Athro
Geography

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602501

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 239
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Rwy'n ddaearyddwr ffisegol sydd wedi derbyn hyfforddiant eang ac mae gen i arbenigedd ymchwil yn y newid yn yr hinsawdd. Mae gen i ddiddordeb mewn archwilio sut mae newid amgylcheddol yn effeithio ar goedwigoedd ein planed, ac elfennau'r cylchoedd carbon a dŵr sy'n amlwg mewn coedwigoedd ac yng nghofnodion y newid byd-eang yn y gorffennol mae coed hynafol yn eu cynnwys. Ar hyn o bryd, rwy'n gwneud gwaith ymchwil yn ardaloedd coedwig Boreal gogleddol Fennoscania ac mewn coedwigoedd trofannol iseldirol yn Sabah, Borneo Malaysia. Ariennir fy ymchwil gan Research Councils UK, National Geographic, yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Rwy'n addysgu cwricwlwm daearyddiaeth ffisegol eang ar lefel sylfaen, israddedig ac ôl-raddedig. Mae meysydd pwnc yn cynnwys: hinsawdd y mil o flynyddoedd diwethaf, technegau mewn ail-greu palaeoamgylcheddol, dendrohinsoddeg a dulliau isotopau sefydlog. Rwyf hefyd yn addysgu sgiliau allweddol i wyddonwyr ac yn cynnal modiwl lleoliad gwaith ar gyfer myfyrwyr daearyddiaeth. Mae gen i ddiddordeb mewn gweithgareddau allgymorth addysgol ac rwy'n cynnal rhaglen allgymorth Coleg Gwyddoniaeth S4 Abertawe, a ariennir gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Palaeohinsawddy
  • Yr newid yn yr hinsawdd
  • Gwyddor cylchoedd coed
  • Dendrohinsoddeg
  • Isotopau carbon
  • Allgymorth gwyddoniaeth
  • Ymgysylltu â gwyddorau cyhoeddus

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

GEG252MB Sgiliau Gwaith Maes Daearyddol: Borneo Malaysia
Mae'r modiwl yn ymwneud â nodi a diffinio cwestiynau daearyddol o fewn amgylchedd coedwigoedd glaw trofannol y Sabah, Borneo Malaysia a chymhwyso sgiliau, gwybodaeth a thechnegau daearyddol perthnasol i'r cwestiynau hyn. 

GEG358 Hinsawdd y 1,000 o flynyddoedd diwethaf
Nod y modiwl hwn yw rhoi'r sgiliau perthnasol i'r cyfranogwyr i'w galluogi i nodi'r dylanwadau anthropogenig a gofnodir yn eang ar yr hinsawdd o safbwynt system hinsoddol sy'n newid yn naturiol. Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar y technegau a ddefnyddir i ail-greu newidiadau yn yr hinsawdd dros y 1,000 o flynyddoedd diwethaf ac mae'n cyflwyno'r prosesau ail-greu ar wahanol raddfeydd tymhorol. 

 

Ymchwil