Trosolwg
Mae Mike wedi ymuno fel Athro Cyllid yn ddiweddar, ar ôl gweithio ym Mhrifysgol Lerpwl cyn hynny. Mae'n Bennaeth y Grŵp Cyfrifeg a Chyllid a Chyfarwyddwr Canolfan Cyllid Empiraidd Hawkes.
Mae Mike wedi ymgysylltu'n helaeth â chyrff proffesiynol ym maes Cyllid, gan gynnwys y CFA, CFA UK, LIBF a Chartered Banker. Bu'n ymwneud â datblygu'r Dystysgrif Rheoli Buddsoddi (IMC) ar gyfer CFA UK, sy'n cael ei hystyried y cymhwyster pennaf i reolwyr cronfeydd yn y DU. Mae'n aelod o Bwyllgor yr IMC.
Yn ddiweddar, mae Mike wedi gweithio gyda chwmni newydd ym maes Rheoli Cyfoeth, ac ar y cyd ag un o'i fyfyrwyr PhD, datblygodd yr ymchwil sy'n sail i'r cynhyrchion datgronni sy'n cael eu cynnig gan y cwmni hwn. Mike sy'n cadeirio pwyllgor buddsoddi'r cwmni hefyd.
Ef yw cyfarwyddwr y rhaglen MSc Technoleg Ariannol arfaethedig.