Trosolwg
Enillodd Mike ei PhD mewn Tocsicoleg Enetig o Brifysgol Abertawe yn 2019; roedd ei draethawd ymchwil yn canolbwyntio ar y perygl sy’n gysylltiedig â mewnanadlu nanoddeunyddiau mewn modelau 2D ac in vitro uwch yr ysgyfaint.
Ers ennill ei PhD, mae Mike bellach yn uwch-aelod ôl-ddoethurol o Grŵp Tocsicoleg In Vitro Prifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, mae Mike yn rhan o brosiectau Horizon 2020 RiskGONE a NanoInformaTIX fel Swyddog Ymchwil, sy'n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid a chydweithredwyr Ewropeaidd. Mae ei brif rôl yn canolbwyntio ar ganfod risgiau i iechyd dynol a rheoli nanoddeunyddau wedi'u dyfeisio mewn genotocsicoleg gyda'r nod o ddatblygu protocolau genotocsicoleg yn benodol ar gyfer nanddeunyddiau.
Prif ddiddordebau ymchwil Mike yw tocsicoleg reoleiddiol, mwtagenedd nanoddeunyddiau a nodweddu nanoddeunyddiau.