Trosolwg
Mae Martin Johnes yn Athro Hanes Modern ac yn arbenigo yn hanes Cymru a diwylliant poblogaidd ym Mhrydain fodern. Mae ef wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau sy’n ystyried gwleidyddiaeth, chwaraeon, gwrywdod, hil, hunaniaeth genedlaethol, cerddoriaeth bop, trychinebau a llywodraeth leol. Wrth wraidd mwyafrif ei waith ymchwil y mae cwestiynau am hunaniaeth. Mae wedi archwilio sut mae pobl yn meddwl am bwy ydyn nhw a'u lle yn eu byd drwy amrywiaeth o leoliadau gwahanol ac ynddynt.
Mae ei waith ar chwaraeon wedi cynnwys astudiaethau o arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol pêl-droed yng Nghymru a dadansoddiadau o rôl hil mewn paffio ym Mhrydain. Mae ei waith ar Gymru yn cynnwys llyfr am yr ymatebion gwleidyddol i drychineb Aberfan a Wales since 1939, astudiaeth fawr a ddaeth â datblygiadau mewn cymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth ynghyd yn y cyfnod ar ôl 1939 er mwyn archwilio hunaniaethau Cymreig. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr yn trafod esblygiad ac arwyddocâd y Nadolig yn y Deyrnas Unedig ar ôl 1914.
Ei lyfr diweddaraf yw Welsh Not: Elementary Education and the Anglicization of 19th Century Wales, a gyhoeddir yn 2024. Hon yw'r astudiaeth academaidd gyntaf o'r Welsh Not gwaradwyddus ac mae'n archwilio sut y cafodd y Gymraeg ei thrin a'i chanfod mewn ysgolion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ei brosiect presennol yw Beyond Borders: The Second World War, National Identities and Empire in the UK. Wedi'i ariannu gan AHRC, mae'n nodi sut roedd pobl gyffredin yn deall ac yn llywio syniadau o hunaniaeth genedlaethol ac Ymerodraeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'n ceisio hanesyddoli ymhellach ddealltwriaeth o amrywiaeth y DU adeg rhyfel a dangos sut y cafodd hunaniaethau imperialaidd a chenedlaethol eu llywio drwy brofiadau o fyw yn hytrach na naratifau sefydliadol, gwleidyddol ac yn y cyfryngau’n unig.
Mae'r Athro Johnes wedi ymrwymo i le hanes mewn diwylliant cyhoeddus. Mae'n siaradwr rheolaidd mewn ysgolion a digwyddiadau cyhoeddus ac yn sylwebydd ac yn gyfrannwr yn y cyfryngau ar faterion hanesyddol a gwleidyddol. Ef oedd awdur a chyflwynydd y gyfres deledu Wales: England's Colony? ar y BBC yn 2019. Ceir detholiad o'i draethodau, ei erthyglau papur newydd, ei gyfweliadau podlediad a'i blog yn www.martinjohnes.com