Professor Matthew Davies

Yr Athro Matthew Davies

Athro
Chemical Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606955

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A220
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Yr Athro Matthew Davies yw Cadeirydd UNESCO ar gyfer Technolegau Ynni Cynaliadwy, Pennaeth y Grŵp Ffotocemeg Gymhwysol ac mae'n rhan o Uwch-dîm Rheoli Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC. Mae ef hefyd yn aelod o'r Adran Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg a'r Adran Peirianneg Gemegol  ym Mhrifysgol Abertawe.

Ef yw Llywydd Cyngor Cymuned yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ac mae'n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol KwaZulu-Natal yn Durban, De Affrica. 

Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ffotocemeg deunyddiau sy'n ddefnyddiol ar gyfer cymwysiadau ffotofoltäig rhad, gyda'r nod o wella sefydlogrwydd, cynaliadwyedd, effeithlonrwydd cynaeafu golau a pherfformiad. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar ffotofoltäig perofsgit ac mae ganddo ddiddordeb penodol mewn nodweddu dyfeisiau sydd wedi'u hail-weithgynhyrchu a datblygu deunyddiau a phrosesau i alluogi ail-ddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu mewn economi gylchol. Mae'r Athro Davies yn credu'n gryf bod angen cael mynediad at ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy er mwyn cyflawni llawer o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy, gan ymestyn ymhell y tu hwnt i'r sector ynni, a bod gan dechnolegau ynni adnewyddadwy sy'n gweithredu o fewn economi gylchol y potensial i fwyafu manteision cymdeithasol, iechyd, addysgol ac amgylcheddol.

Yr Athro Matthew Davies: Darlith Agoriadol, 2022