Trosolwg
Mae Dr Michaela James yn swyddog ymchwil yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd y Boblogaeth ac ADR UK. Mae ei phrif feysydd ymchwil yn cynnwys iechyd a lles pobl ifanc, yn benodol chwarae a gweithgarwch corfforol. Mae hi'n rheoli HAPPEN-Wales, rhwydwaith cenedlaethol sy'n ceisio gwella iechyd, lles a deilliannau addysgu plant ysgolion cynradd ledled Cymru. Mae ei gwaith ymchwil yn cynnwys eirioli dros anghenion pobl ifanc yn eu cymunedau lleol i wella iechyd a lles. Caiff ei gwaith ei gyd-greu'n bennaf gyda phobl ifanc er mwyn rhoi llais iddynt ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw.