An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite

Dr Marie-luise Kohlke

Uwch-ddarlithydd
English Literature

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604314

Cyfeiriad ebost

211
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae’r Dr Marie-Luise (Mel) Kohlke yn ymchwilydd blaenllaw ym maes Astudiaethau Neo-Fictoraidd, ac yn Olygydd Cyffredinol yr e-gyfnodolyn arloesol, mynediad agored Neo-Victorian Studies (http://neovictorianstudies.com/), a gafodd ei sefydlu ganddi ym Mhrifysgol Abertawe yn 2008, ac yn Gyd-Olygydd Brill|Rodopi’s Neo-Victorian Series. Yn ogystal, ar hyn o bryd mae'n cyd-olygu rhifyn arbennig 2021 ar 'Neo-Victorian Heterotopias' ar gyfer y cyfnodolyn mynediad agored Humanities. Mae hi hefyd yn arbenigo ym meysydd rhyngddisgyblaethol llenyddiaeth a damcaniaeth trawma, astudiaethau rhyw a rhywioldeb, cof diwylliannol (yn enwedig cof am wrthdaro a thrais), y Gothig, bioffuglen a daearyddiaethau llenyddol. Mae Mel yn aelod o Grwpiau Ymchwil Prifysgol Abertawe, Rhyw mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS) a Gwrthdaro, Ail-luniad a Chof (CRAM), ac yn Aelod Cyswllt o Brosiect ORION Sbaeneg: Orientation: Towards a Dynamic Understanding of Contemporary Fiction and Culture (1990au-2000au), dan arweiniad yr Athro Rosario Arias o Brifysgol Malaga. Mae Mel yn croesawu’n arbennig gynigion PhD ar bynciau neo-Fictoraidd ond mae hefyd yn hapus i oruchwylio traethodau ymchwil ar bynciau eraill sy'n ymwneud â'i meysydd arbenigedd.

Mae diddordebau ymchwil Mel wedi'u halinio'n agos â'i haddysgu, sy'n cwmpasu modiwl ar Memory and Identity in Film and Literature ar y Flwyddyn Sylfaen, cwrs y flwyddyn gyntaf Monsters, Theories, Transformations, a’r seminar dewisol Reading/Writing Trauma ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn olaf, sy'n cwmpasu gwaith amrywiol o lenyddiaeth yr Holocost i ysgrifennu Palesteinaidd a thestunau ôl-wladychol. Ar lefel MA, mae'n cynnig seminar poblogaidd Neo-Victorian Mutinies, sy'n archwilio gwrthdaro llenyddol a ffilm ag agweddau tywyllach imperialaeth Gorllewinol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwleidyddiaeth hiliol a rhyw'r cyfnod gartref a thramor, a'u gwaddol heddiw. Mae Mel hefyd yn cynnull y Gweithdy Ysgrifennu ar gyfer Cyhoeddi Academaidd ar gyfer ôl-raddedigion ymchwil yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, sy'n cynorthwyo myfyrwyr i gyhoeddi erthyglau ochr yn ochr â'u traethodau ymchwil.

Meysydd Arbenigedd

  • Astudiaethau Neo-Fictoraidd
  • Llenyddiaeth a Damcaniaeth Trawma
  • Rhyw a Rhywioldeb
  • Cof Diwylliannol
  • Y Gothig
  • Bioffuglen
  • Daearyddiaethau Llenyddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

[Trosglwyddwch yr wybodaeth ar fy ymchwil bresennol o'm tudalen/proffil staff cyfredol, ond ychwanegwch y canlynol o dan yr adran ar 'Gynadleddau' / 'Prif Areithiau Cynadleddau, Darlithoedd Gwadd, Papurau Gwadd a Chyfraniadau Fforwm'.]

2019. “Traumatophilia in Neo-Victorian Fiction: The Lure of Historical Suffering”, Keynote Lecture presented at AICED-21, the 21st Annual International Conference of the English Department for the Literature and Cultural Studies section on Trauma, Narrative, Responsibility, Prifysgol Bucharest, Romania, 6-8 Mehefin 2019.

  1. “Orientating the Reader in Neo-Victorian Biofiction”, Keynote Lecture presented at the (Neo-)Victorian ‘Orientations’ in the Twenty-first Century conference, Prifysgol Málaga, Sbaen, 15-17 Mai 2019.

2018. “Neo-Victorianism’s Janus-Faced Orientations: To the Nineteenth Century and Beyond (All the Way Back to the Medieval)”, Prif Ddarlith a gyflwynwyd yn yr ISSM Boundary Crossings: the 2018 International Conference on Medievalism, Prifysgol Brock, Ontario, Canada, 12-13 Hydref 2018.

2017. “Neo-Victorian Decadent Pleasures: Consuming Bodies on Page and Screen”, Prif Ddarlith a gyflwynwyd yn y gynhadledd Neo-Victorian Decadences, Prifysgol Durham, y DU, 8-9 Medi 2017.

2017. “Cross-Cultural Consumptions of Desire: Pornographied Lesbian Bodies on Screen in Park Chan-wook and Chung Seo-kyung’s The Handmaiden (2016)”, Papur Gwadd a gyflwynwyd yn y symposiwm Assuming Gender, Prifysgol Caerdydd, 14 Gorffennaf 2017.

2017. “Neo-Victorianism’s Inhospitable Places”, Prif Ddarlith a gyflwynwyd yn y gynhadledd Space and Place in Neo-Victorian Literature and Culture, Prifysgol Caerhirfryn, y DU, 23 Mehefin 2017.

2017. “Neo-Victorianism’s Hospitable Inhospitality: Welcoming Otherness”, Prif Ddarlith a gyflwynwyd yn y 1st International Seminar on (Neo-)Victorian Studies in Spain, Prifysgol Málaga, Sbaen, 10-12 Mai 2017.