Dr Martin Gill

Dr Martin Gill

Uwch-ddarlithydd
Chemistry

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
435
Trydydd Llawr
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Martin Gill yn dod o ardal Llanelli yn wreiddiol ac enillodd radd BSc (Anrh) mewn Cemeg o Brifysgol Bryste ac yna PhD mewn Cemeg o Brifysgol Sheffield dan oruchwyliaeth yr Athrawon Jim Thomas a Giuseppe Battaglia. Bu Martin yn aros yn ninas wych Sheffield â Chymrodoriaethau Ôl-ddoethurol gan yr EPSRC ac Ymddiriedolaeth Wellcome gyda'r Athro Carl Smythe cyn symud ymlaen i Brifysgol Rhydychen a'r grŵp Radiotherapiwteg Arbrofol dan arweiniad yr Athro Katherine Vallis. Yn 2019, dychwelodd Martin i Gymru i ddechrau ei yrfa ymchwil annibynnol yn yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ei amser hamdden, mae ef yn cefnogi'r Scarlets a Chymru ac yn mwynhau teithio.

Meysydd Arbenigedd

  • Bioleg Gemegol
  • Cemeg Bioanorganig
  • Cemeg Feddyginiaethol
  • Cemeg Cyd-drefniant
  • Cemeg Organofetelig
  • Radiocemeg
  • Ymchwil CanserFfarmacoleg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ymchwil yn labordy Gill ar ryngwyneb cemeg a bioleg. Ein huchelgais yw ynysu cemegion newydd sy'n rhoi cipolwg newydd ar swyddogaeth foleciwlaidd biofoleciwlau mewn celloedd a chymhwyso'r wybodaeth hon i greu cyffuriau posibl ar gyfer clefydau dynol fel canser. Mae'r rhaglen ymchwil hon yn defnyddio pob math o dechnegau a methodolegau ar draws cemeg anorganig synthetig, bioleg celloedd / moleciwlaidd a biocemeg gyda chymwysiadau mewn darganfod cyffuriau ac ymchwil canser. Ewch i gillchembiol.com am fwy o wybodaeth a’r cyfleoedd diweddaraf.

Prif Wobrau Cydweithrediadau