Trosolwg
Derbyniodd Suresh gymhwyster Meddygaeth o Brifysgol Mysore, India yn 2000. Cwblhaodd ei hyfforddiant arbenigol mewn Meddygaeth Frys a Meddygaeth Gofal Dwys o Ddeoniaeth Cymru. Mae ei ddiddordeb ymchwil glinigol ym maes datblygu biofarcwyr mewn tolcheniad gwaed gan ddefnyddio technegau rheolegol. Enillodd ddyfarniad PhD ym Mhrifysgol Abertawe am archwilio effaith clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ar ficroadeiledd tolchen gwaed. Roedd Suresh yn rhan o sefydlu a datblygu Canolfan Ymchwil Meddygaeth Frys Cymru (WCEMR) sydd wedi'i lleoli yn Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys.
Ar hyn o bryd, mae Suresh yn academydd clinigol sy'n gweithio fel meddyg ymgynghorol er anrhydedd mewn Meddygaeth Frys a Meddygaeth Gofal Dwys yn Ysbyty Treforys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn Uwch-ddarlithydd mewn Meddygaeth Frys (Ymchwil Uwch) ym Mhrifysgol Abertawe.