Trosolwg
Rwy'n ddaearyddwr ffisegol sydd ag arbenigedd yn y gwaith o ddatblygu a chymhwyso technegau isotopau sefydlog ar gyfer astudio newid cyfoes a phalaeoamgylcheddol. Rwy'n arbenigo mewn ymholiadau o archifau naturiol (cylchoedd coed, mawn, paill etc.) er mwyn ail-greu newid yn yr hinsawdd y tu hwnt i'r cyfnod o arsylwadau gweithredol ac wrth ddatblygu cyfres isotopau coeden ar gyfer dyddio manwl-gywir.
Rwy'n arwain UK Oak Project, consortiwm ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n ymroi i ymchwilio'n wyddonol i goed derw i'w dyddio'n fanwl, astudio hinsoddau'r gorffennol a'r cydnerthedd a phennu ymateb coed coedwig i newid amgylcheddol cyfredol a newid amgylcheddol yn y dyfodol.