Trosolwg
MA (Hons), MSc, PhD, MIMA, Prof Grad IMMM, FHEA
Dr Nicholas Lavery yw Cyfarwyddwr Canolfan Uwch Briodweddau Deunydd (MACH1), a’r academydd sy’n arwain y grwp Ymchwil Gweithgynhyrchu Ychwanegion Abertawe (SAMR) .
Yn fras, mae diddordebau ymchwil Dr Lavery yn canolbwyntio ar ddefnyddio mesuriad priodwedd deunydd, modelu cyfrifiannol ac astudiaethau arbrofol i ddatblygu prosesau a deunyddiau gweithgynhyrchu diwydiannol, gyda rhaglenni i gynnyrch peirianneg o fewn cynnyrch awyrofod, meddygol, modurol ac ynni.
Meysydd ymchwil cyfredol:
- Gweithgynhyrchu Ychwanegion yn benodol ymasiad powdr laser (PBF)
- Profi Priodweddau Deunydd Trwybwn Uchel (MACH1)
- Modelu cyfrifiannol o brosesau gweithgynhyrchu amrywiol (Gweithgynhyrchu Haen Ychwanegion, Allwthiad, Gwasgu Powdr Isostatig, Sintro …)
- Prototeipo Aloi Cyflym
- Asesu Cylch Bywyd
Wedi treulio amser yn y byd academaidd a diwydiannol, rydw i wedi sefydlu ystod eang o gydweithrediad ymchwil rhyngwladol ac fe adlewyrchir hyn gan y nifer o wahoddiadau i ddatblygu a chymryd rhan mewn amryw o gynigion EC FP7/H2020.
Rydw i’n adolygydd nodedig cydnabyddedig i’r cyhoeddiadau canlynol: Journal of Alloys and Compounds, the Journal of Additive Manufacturing and the Journal of Applied Mathematical Modelling.
Rydw i wedi bod yn adolygydd rhyngwladol ar gyfer cynigion gweithgynhyrchu ychwanegion i Sefydliad Arloesedd Canada a Chyngor Ymchwil Gwyddonol a Pheirianneg Singapore.