Trosolwg
Rwy'n gweithio ar y rhyngwyneb rhwng mathemateg a bioleg. Rwy'n canolbwyntio'n bennaf ar fodelu iechyd a chlefydau'n fathemategol. Rwy'n defnyddio amrywiaeth o offer damcaniaethol a chyfrifiannu i ddisgrifio'r rhyngweithiadau dynamegol sy'n digwydd ar wahanol raddfeydd gofodol ac amseryddol. Rydw i wedi bod yn astudio'r rhyngweithio rhwng tiwmor a'i amgylchedd gan ddefnyddio modelau unigol ynghyd â hafaliadau differol rhannol. Rwy'n defnyddio dynameg y boblogaeth i astudio datblygiad y cortecs cerebrol ac i fapio'r llwybrau esblygol gwahanol sy'n arwain at wahaniaethau rhwng rhywogaethau mamalaidd. Rwyf hefyd wrthi'n gweithio ar ffyrdd o integreiddio data arbrofol i fodelau mathemategol er mwyn disgrifio'n feintiol y prosesau o ddiddordeb a gwneud rhagfynegiadau y gellir eu profi.