Trosolwg
Mae gan Dr Pete King radd doethur mewn Astudiaethau Plentyndod o Brifysgol Abertawe, ac mae’n rheolwr rhaglen y rhaglenni MA mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig, ac Astudiaethau Plentyndod. Mae ymchwil Pete wedi cael ei chyhoeddi’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae ei lyfr presennol, sef ‘The Play Cycle: Theory, Research and Application’, yn cynnwys damcaniaeth ac ymchwil gyfredol ynglŷn â’r Gylch Chwarae.