Trosolwg
Mae gen i dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y sector addysg. Yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi addysgu ffiseg yn bennaf, ond hefyd wedi addysgu electroneg, peirianneg a gwyddoniaeth mewn nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Roeddwn yn bennaeth yr adran wyddoniaeth mewn ysgol uwchradd 11-18 a hefyd wedi arwain ar nifer o brosiectau traws cwricwlaidd ac ysgol gyfan.
Cyn gweithio fel darlithiwr TAR mewn hyfforddiant cychwynnol athrawon yr oeddwn yn gweithio fel cynghorwr gwyddoniaeth ar gyfer y consortiwm ERW. Yr oeddwn yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth i athrawon gwyddoniaeth ar lefel sirol ac ar gyfer ysgolion unigol. Ar hyn o bryd yr wyf, hefyd, yn gweithio fel awdur ac arholwr ar gyfer papurau gwyddoniaeth i'r Cyd Bwyllgor addysg Cymru (CBAC).