A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Professor Gwynedd Parry

Yr Athro Gwynedd Parry

Athro
Cymraeg

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 166
Llawr Cyntaf
Adeilad Talbot
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Yr Athro Parry yw Pennaeth Adran y Gymraeg. Mae’n ysgolhaig ac yn fargyfreithiwr, gyda’i ddiddordebau ymchwil yn ymgysylltu’r gyfraith â hanes ac iaith, ac yn enwedig yng nghyd-destun Cymru a'r Gymraeg. Mae ganddo record hir o gyhoeddiadau ysgolheigaidd, gan gynnwys monograffau, erthyglau a chyfraniadau at gasgliadau wedi'u golygu. Mae wedi gwasanaethu ar sawl pwyllgor cenedlaethol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwyf yn dysgu’r modiwlau hyn: Statws y Gymraeg, Cyfraith Hywel, Hawliau Iaith yn y cyd-destun Rhyngwladol a’r Gymraeg, Datganoli a’r Gyfraith.

Rwyf yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau