Dr. Ding's profile picture

Dr Runze Ding

Darlithydd Cyfryngau a Chyfathrebu
Media

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Runze Ding yn Ddarlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe. Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Leeds ac mae'n angerddol am roi ffocws ar safbwyntiau sydd wedi'u hymyleiddio drwy ei waith ymchwil. Mae ei waith yn rhychwantu astudiaethau LHDT, diwylliannau digidol, y cyfryngau amgen ac (is) astudiaethau diwylliannol gyda diddordeb mawr yn y profiad Tsieineaidd. Mae ei waith ymchwil wedi cael ei gynnwys mewn cyfnodolion megis European Journal of Cultural Studies, Social Media + Society, ac International Journal of Communication. Cafodd ei gydnabod hefyd drwy ddyfarnu iddo wobr y Papur Gorau gan Academydd gan y Grŵp Diddordeb Astudiaethau LHDTC yn 73ain Gynhadledd Flynyddol yr ICA.

Cyn ymuno ag Abertawe, bu'n Athro Cynorthwyol yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn Beijing Normal University-Hong Kong Baptist University United International College, lle bu'n arwain modiwlau ar y cyfryngau (newydd), hunaniaeth a chymdeithas.

Meysydd Arbenigedd

  • Diwylliannau Digidol
  • Astudiaethau LHDT+
  • Rhywioldeb
  • Y Cyfryngau Amgen
  • Y Cyfryngau Cymdeithasol ac Actifiaeth
  • Astudiaethau Diwylliannol yn y Cyd-destun Tsieineaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Y Papur Gorau gan Academydd gan y Grŵp Diddordeb Astudiaethau LHDTC yn 73ain Gynhadledd Flynyddol yr ICA