Trosolwg
Mae'r Athro Steve Bain yn Gyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil a Datblygu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyfarwyddwr Clinigol yr Uned Ymchwil Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe.
Ar ôl cael hyfforddiant israddedig yng Ngholeg St John's, Caergrawnt, cafodd ei hyfforddi'n glinigol yn Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain. Gan gymhwyso yn 1983, daliodd apwyntiadau iau yn Llundain, Dwyrain Canolbarth Lloegr, a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Canolbwyntiodd ei ymchwil ar eneteg diabetes math 1, a chafodd Ddarlithyddiaeth y Cyngor Ymchwil Feddygol. Yn 1993, daeth yn Uwch Ddarlithydd / Meddyg Ymgynghorol er Anrhydedd yn Ysbyty Heartlands Birmingham, gyda dyrchafiad i Ddarllenydd mewn Meddygaeth Diabetig ym 1998. Daeth yr Athro Bain yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon, y DU, ym 1996 ac fe’i penodwyd i Gadair newydd mewn Meddygaeth (Diabetes) ym Mhrifysgol Abertawe yn 2005. Mae ei ddiddordebau clinigol yn cynnwys geneteg neffropathi diabetig, therapïau newydd ar gyfer diabetes a darparu gwasanaethau diabetes yn y gymuned. Bu'n Brif Ymchwilydd ar gyfer sawl treial aml-ganolfan sy'n ymchwilio i therapïau newydd ar gyfer diabetes.
O ganlyniad i'w gefndir geneteg, daeth yr Athro Bain yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil Gorllewin Canolbarth Lloegr (MREC) ac ymunodd â Chomisiwn Geneteg Dynol y DU. O 2003-2008 ef oedd enwebiad HGC ar y Bwrdd Strategaeth Cronfa Ddata DNA Genedlaethol ac arweiniodd adroddiad HGC ar brofion DNA yn 2009. Yn 2007 gwahoddwyd ef i eistedd ar y Grŵp Moeseg Cronfa Ddata DNA Genedlaethol, a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref. Yr Athro Bain yw Clinigydd Arweiniol Diabetes ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Diabetes ac Endocrin Cymru (WEDS) a bu’n gadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol ar gyfer Diabetes ac Endocrinoleg Cymru tan 2016. Mae hefyd yn cadeirio’r Bwrdd sy’n goruchwylio Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd ILS, y prif sefydliad ymchwil glinigol yng Nghymru.