A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Dr Salwa El-Awa

Dr Salwa El-Awa

Uwch-ddarlithydd
Modern Languages

Trosolwg

Mae Dr Salwa El-Awa yn Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Arabeg ac Islamaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei diddordebau ymchwil ac addysgu yn cynnwys ieithyddiaeth Arabeg a dadansoddiad ieithyddol modern o destun Arabeg ac Islamaidd, yn enwedig y Qur’an, yn ogystal ag ymchwilio i fudiadau Islamaidd cyfoes. Cyn hynny bu’n ddarlithydd mewn astudiaethau Qur’an yn Adran Diwinyddiaeth a Chrefydd Prifysgol Birmingham (2001-2010), lle dysgodd Astudiaethau Qur’an a Hadith. Bu hefyd yn dysgu ieitheg ac ieithyddiaeth Arabeg ym Mhrifysgol Ain Shams yn Cairo rhwng 2010 a 2015. Mae Dr El-Awa wedi ysgrifennu sawl cyhoeddiad ar destun y Qur’an gan gynnwys dau fonograff, The Qur’anic Text: Relevance, Coherence and Structure (2005), Al-Wujuh Wa al-Naza’ir: dirasa fi Siyaq al-Qur’an (1998) a nifer o erthyglau academaidd ar faterion cydlyniad a strwythur testun yn y Qur’an. Mae ei gwaith ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar destunoldeb y Swra Qur’anaidd; marcwyr disgwrs Arabaidd; rôl marcwyr disgwrs fel dangosyddion cysylltiadau testun o fewn y Swra Qur’anaidd ac ideolegau a hanesion ymgyrchu Islamaidd yn y Dwyrain Canol.

Meysydd Arbenigedd

  • Ieithyddiaeth Arabeg
  • Astudiaethau Islamaidd
  • Astudiaethau Cyfieithu (Arabeg-Saesneg)
  • Dadansoddi testun (Ysgrythurau – Llenyddiaeth)
  • Dadansoddiad disgwrs (crefyddol – gwleidyddol)
  • Mudiadau Islamaidd
  • Astudiaethau Qur’an
  • Astudiaethau Hadith

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ieithyddiaeth Arabeg

Astudiaethau Islamaidd

Qur’an a Hadith

Dadansoddi testun a disgwrs

Cyfieithu (Arabeg-Saesneg)

Ymchwil Cydweithrediadau