Trosolwg
Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yw Samantha Turner sy'n arbenigo ym maes Atal Anafiadau. Mae Samantha wedi gweithio ar sawl prosiect cyswllt data ac ymchwil gyda'r nod o wella proffilio anafiadau, amcangyfrifo nifer yr anafiadau, cymaroldeb data anafiadau ar draws gwledydd, a mesur baich anafiadau. Ymhlith y prosiectau mae: System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan, yr Ymdrech Gydweithredol Ryngwladol ar Ystadegau a Dulliau Anafiadau (ICE) a’r European Injury Data Base (IDB) a ariennir bellach o dan InfAct (Gwybodaeth ar gyfer Gweithredu!), y cydweithrediad gwybodaeth iechyd.