Trosolwg
Mae Saikat Datta yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo dros ddegawd o brofiad o ymchwil mewn hylifeg micro/nano, llif amlwedd, a modelu llif aml-raddfa gan ddefnyddio deinameg foleciwlaidd (MD) a deinameg hylif gyfrifiadol (CFD).
Mae ei ymchwil wedi cael ei chyhoeddi mewn cyfnodolion o'r radd flaenaf, megis Nano Letters, Nanoscale, a Fuel, ac mae hefyd wedi cael sylw gan y wasg, gan gynnwys Phys.org. Mae wedi cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys MNF, ICMF, ac InterPore.
Enillodd ei PhD yn 2018 o Sefydliad Technoleg India Kharagpur, ac yn dilyn hynny, meddodd ar swyddi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caeredin. Yn 2021, derbyniodd gymrodoriaeth gystadleuol iawn, sef Cymrodoriaeth Gyrfa Gynnar Ymddiriedolaeth Leverhulme er mwyn cynnal ymchwil annibynnol ar ddadrewi sydd wedi'i ysgogi gan ddirgryniadau ym Mhrifysgol Caeredin.