Trosolwg
Sarah yw Arweinydd Addysg yr Ysgol ar gyfer yr Ysgol Reolaeth. Mae'n addysgwraig brofiadol sydd wedi dysgu mewn Addysg Uwch am 20+ mlynedd. Mae ei chymwysterau lawn cystal, â hithau'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA), TAR(AU/AB) ac yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig.
Mae wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i gyflawni deilliannau dysgu uwch, gwell sgiliau trosglwyddo a dysgu gydol oes, a gwell cyflogadwyedd, ac mae'n ymdrechu i greu'r gymuned academaidd orau bosibl rhwng staff a myfyrwyr yn yr adran.
Mae hi'n angerddol am ddatblygiadau Dysgu ac Addysgu, yn enwedig ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd o fewn y cwricwlwm ac mewn asesiadau.