bay campus location
Dr Tiffany Low

Dr Tiffany Low

Uwch-ddarlithydd mewn Marchnata Twristiaeth
Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
340
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Academydd profiadol ym maes twristiaeth yw Dr Tiffany Low, sydd â diddordeb ym meysydd twristiaeth foethus, marchnata twristiaeth, twristiaeth gynaliadwy, twristiaeth gritigol ac astudiaethau hamdden awyr agored ac antur. Mae Dr Low wedi gweithio yn y byd academaidd ers dros 15 mlynedd ac mae ganddi raddau dosbarth cyntaf mewn Busnes (Economeg Ariannol) a Rheoli Gwestai (Rheoli Digwyddiadau) ac MSc mewn Bancio a Chyllid. Rhoddodd ei PhD sylw i ddylanwad gwerthoedd defnyddwyr ar ffyddlondeb brand yn y sector gwestai moethus ac mae'n parhau i ymchwilio a chyhoeddi yn y maes hwn. Ochr yn ochr â hyn, mae Dr Low hefyd wedi cyhoeddi ar dwristiaeth gynaliadwy a'r rhwystrau i fenywod wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau mynydda. Mae hi'n addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ac mae hi hefyd yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr PhD.

Cyn ymuno â'r byd academaidd, bu Dr Low yn gweithio yng ngwesty moethus 6-seren cyntaf y byd, sef y Palazzo Versace, a chyn hynny gweithiodd fel gwarantwr yswiriant corfforaethol, yn gwarantu risgiau troseddau ariannol, indemniad proffesiynol, polisïau yswiriant meddygol ac yswiriant teithio oddi cartref ar gyfer sefydliadau rhyngwladol, addysg uwch, y Llywodraeth a chyrff anllywodraethol.

Meysydd Arbenigedd

  • Twristiaeth Foethus
  • Brandio Twristiaeth a Gwerthoedd Defnyddwyr
  • Datblygu Cynaliadwy
  • Astudiaethau Twristiaeth Gritigol
  • Astudiaethau Hamdden Awyr Agored ac Antur

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Israddedig:

  • Sylfeini a hanfodion twrisiaeth.
  • Marchnata twristiaeth,
  • Twristiaeth ar waith a theithiau maes twristiaeth cymhwysol.

Ôl-raddedig:

  • Damcaniaeth a rheoli brand strategol
  • Marchnata, brandio a chynllunio strategol ym maes twristiaeth.
  • Damcaniaeth twristiaeth gritigol a materion twristiaeth cyfoes

Mae Dr Low yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.

Ymchwil Prif Wobrau