Dr Wing Chung Tsoi

Dr Wing Chung Tsoi

Athro Cyswllt
Materials Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A202
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae

Trosolwg

Darlithydd yw Dr Wing Chung Tsoi. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar broses-ateb celloedd ffotofoltäig/solar, gan gynnwys celloedd solar organig, a chelloedd solar perofsgit.

Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn deall perthynas strwythur-priodwedd-perfformiad y celloedd ffotofoltäig/solar, er mwyn deall yr hanfodion a gwella'r perfformiad, yn enwedig sefydlogrwydd y celloedd ffotofoltäig/solar.

Mae ei arbenigedd ar ddatblygu/defnyddio dulliau nodweddiaduu uwch (nano-) i ymchwilio i strwythurau/morffoleg y ffilmiau tenau ffotofoltäig, a'i gydberthynu â'r nodweddion a pherfformiadau. Mae ei arbenigedd penodol ar sbectrosgopeg Raman datblygedig a microsgopi grym atomig swyddogaethol (AFM) yn ogystal â chelloedd ffotofoltäig ar gyfer cymwysiadau dan do, ffenestr cynhyrchu pŵer ac awyrofod.

Cafodd Dr Wing Chung Tsoi ei ddiploma uwch mewn Ffiseg Gymhwysol gan Brifysgol Polytechnig Hong Kong. Yna cafodd BSc mewn Ffiseg gyda Laserau a Ffotoneg o Brifysgol Hull. Cafodd ei PhD mewn Ffiseg (Teitl y Traethawd Ymchwil: Polymerisable Liquid Crystals for Organic Photovoltaics) o dan oruchwyliaeth yr Athro Mary O'Neill ym Mhrifysgol Hull yn 2006.

Yn ystod ei PhD, darganfu y gellir defnyddio crisialau hylif newydd sy’n amsugno golau ac yn cario gwefrau fel deunyddiau PV ac i fireinio ei nano-morffoleg er mwyn gwella effeithlonrwydd y PV yn sylweddol. [1] Yna cymerodd swydd ôl-ddoethurol o dan yr Athro David Lidzey ym Mhrifysgol Sheffield, gan weithio ar ddeunyddiau lled-ddargludo organig ar gyfer newid optegol hynod gyflym newydd. Yn ystod y cyfnod, darganfu y gellir ffurfio cam diddorol ac arbennig, y "beta-gam" fel y’i gelwir gydag oligomerau fflworen. [2]

Meysydd Arbenigedd

  • Sbectrosgopeg Raman
  • Celloedd solar organig
  • Astudiaethau diraddiad
  • Defnydd newydd o ffotofoltäeg
  • Nodweddiadu uwch celloedd solar y gellir eu hargraffu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Gwyddoniaeth Peirianneg EG-086

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ffiseg sylfaenol gan gynnwys priodweddau mecanyddol, thermol, trydanol ac optegol mater.

Gwyddoniaeth Peirianneg EGA106

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ffiseg sylfaenol gan gynnwys priodweddau mecanyddol, thermol, trydanol ac optegol mater.

Ymchwil