Trosolwg
Dechreuodd Richard ei yrfa fel cyfreithiwr dan hyfforddiant, ac yna’n gyfreithiwr cynorthwyol, gyda Chorfforaeth Glo Prydain. Yn dilyn hynny aeth i Ysgol y Gyfraith Ynysoedd Cayman ac roedd yn aelod o Siambrau Twrnai Cyffredinol Ynysoedd y Cayman.
Wedi dod yn ôl i'r Deyrnas Unedig ef oedd Cyfarwyddwr Clinig Prifysgol Essex cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe ym mis Ionawr 2017.
Yn gyn Gadeirydd Cymdeithas Athrawon y Gyfraith, roedd Richard hefyd yn aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru Comisiwn y Gyfraith. Bu hefyd yn Ymgynghorydd Cymru Canolfan Addysg Gyfreithiol y DU, yn athro gwadd ym Mhrifysgol Fudan, Gweriniaeth y Bobl Tsieina o dan Raglen Gydweithredol yr UE-Tsieina, yn Adolygydd Annibynnol ar gyfer Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, ac yn adolygydd ar gyfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Ar hyn o bryd, mae Richard yn aelod o Bwyllgor Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr a bu hefyd yn aelod o'i Phwyllgor Mynediad at Gyfiawnder.
Richard oedd golygydd adran Policy and Educational Developments The Law Teacher: The International Journal of Legal Education ac mae'n parhau i fod ar y Bwrdd Golygyddol. Mae hefyd yn adolygydd ar gyfer yr International Journal of Clinical Legal Education. Mae wedi cynnull nifer o gynadleddau ar addysg gyfreithiol yng Nghymru, yn fwyaf diweddar ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Addysg Gyfreithiol (LERN) ym mis Ebrill 2016.
Yn ogystal â rhedeg clinigau sy'n rhoi cyngor a chymorth cychwynnol i aelodau'r cyhoedd ynghylch pynciau fel tai, torperthynas, materion defnyddwyr, a chyfraith cyflogaeth, mae Richard hefyd wedi cynnal prosiect cyfraith carchardai ar y cyd â'r Gwasanaeth Cyngor i Garcharorion, a Phrosiect Camweinyddu Cyfiawnder ar y cyd ag Inside Justice.
Ar hyn o bryd mae Richard yn aelod o Fwrdd Cynghori LawWorks Cymru, Pwyllgor Mynediad at Gyfiawnder Cymdeithas y Cyfreithwyr, ac mae'n rhedeg Desg Gymorth Ymgyfreithio yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Abertawe. Mae'n Gadeirydd grŵp llywio Rhwydwaith Cyngor Rhanbarthol Abertawe Castell-nedd Port Talbot ac mae'n ymddiriedolwr i'r elusen iechyd meddwl, Hafal.